Croeso i Theatr y Pafiliwn
Cyfeillion y Pafiliwn
Ymunwch yn awr i fwynhau disgownt arbennig ar sioeau penodedig a llawer o fanteision eraill.
Gwybodaeth ar Fwcio
Bwcio Ar-lein
Defnyddiwch yr adran ddigwyddiadau i weld y rhaglen gyfredol a dyfodol o sioeau a digwyddiadau.
Os hoffech fwcio tocynnau ar gyfer sioe, defnyddiwch y cyswllt "Bwcio" sy'n ymddangos wrth ochr manylion y sioe. Yna fe welwch restr o berfformiadau i ddewis ohonyn nhw.
Defnyddiwch y cyswllt 'Bwcio' a welir wrth ymyl y perfformiad yr ydych â diddordeb ynddo. Eir â chi i weinyddwr diogel ein hasiantau bwcio lle gallwch ddewis yr opsiynau prisiau sydd ar gael ar gyfer eich tocynnau gan ddefnyddio cerdyn credyd.

Dim ond cardiau Visa a Mastercard y gallwn eu derbyn ar gyfer taliadau ar-lein.
Oriau Agor y Swyddfa Docynnau
Llun - Sadwrn
10:00am tan Godi'r Llenni ar ddyddiau perfformiad.
10:00am tan 6:00pm ar ddyddiau heb berfformiad.
Sul
4:00pm tan Godi'r Llenni ar ddyddiau perfformiad.
Ar gau ar ddyddiau heb berfformiad.
Bwcio ar y Ffôn neu'n Bersonol
I fwcio ar y ffôn, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01745 330 000 neu i fwcio'n bersonol galwch heibio - yn ystod oriau agor arferol.

Byddwn yn derbyn y rhan fwyaf o gardiau Debyd a Chredyd yn y Swyddfa Docynnau. Os yn bwcio'n bersonol byddwn yn derbyn sieciau ac arian parod.
Bwcio drwy'r Post
I fwcio drwy'r post anfonwch siec am y cyfanswm yn daladwy i "Theatr y Pafiliwn" gyda manylion y sioe, y perfformiad a nifer y tocynnau sydd eu hangen. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt. Mae cyfeiriad y Swyddfa Docynnau isod. Peidiwch ag anfon arian parod yn y post.
Swyddfa Docynnau ~ Theatr y Pafiliwn ~ Promenâd ~ Y Rhyl ~ LL18 3AQ
Codir tâl o 35c am bostio'r tocynnau.
