22 Medi 2020 7pm & 9:30pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £31.50 ddim consesiwn

    Dim yn addas i blant dan 16 oed.

    Ni chaniateir mwy na 10 tocyn i bob archeb.

    JIMMY CARR: TERRIBLY FUNNY

    Mae un o’r digrifwyr mwyaf poblogaidd yn y byd, Jimmy Carr wedi cyhoeddi dyddiad ym Mhafiliwn y Rhyl fel rhan o’i Daith 2019/2020 – Terribly Funny. Dydd Mawrth 22 Medi 2020 am 7pm.

    Mae Terribly Funny yn cynnwys jôcs am amrywiaeth o bethau ofnadwy. Pethau ofnadwy a allai fod wedi eich heffeithio chi neu bobl yr ydych yn eu hadnabod a’u caru. Ond dim ond jôcs ydyn nhw. Mae cael cywirdeb gwleidyddol mewn sioe gomedi fel cael iechyd a diogelwch mewn rodeo. Rŵan eich bod chi wedi cael eich rhybuddio, prynwch docyn.

    Celwyddau bychain yw jôcs. Dim byd mwy na thriciau hwyliog, doniol, gwych, wedi’i llunio o iaith. Bydd Jimmy yn dweud jôcs i gynulleidfa o oedolion sydd â syniad da o’r hyn i’w ddisgwyl. Nid oes unrhyw bwrpas i’r sioe, oni bai am wneud i’r gynulleidfa chwerthin. Mae cael cywirdeb gwleidyddol mewn sioe gomedi fel cael iechyd a diogelwch mewn rodeo. Rŵan eich bod chi wedi cael eich rhybuddio, mwynhewch y sioe.

    Mae Jimmy Carr wedi bod yn ddigrifwr am dros ddegawd a hanner. Mae wedi perfformio 10 o deithiau a werthodd allan, gan chwarae dros 2,500 o sioeau i fwy na 2 filiwn a hanner o bobl. Enillodd y Wobr Gomedi Brydeinig am y ‘Daith Stand-yp Fyw Orau’, cafodd ei enwebu am y Wobr Perrier ac yn 2016 daeth y digrifwr cyntaf yn y DU i recordio sioe arbennig ar gyfer y sianel ffrydio UDA, Netflix.

    Mae ei sioeau teledu’n cynnwys 20 cyfres fel cyflwynydd y sioe banel 8 Out Of 10 Cats, 16 cyfres o’r sioe ddilynol 8 Out Of 10 Cats Does Countdown a 10 mlynedd yn cyflwyno rhaglen Sianel 4, Big Fat Quiz Of The Year. Mae hefyd wedi cyflwyno tair cyfres o Roast Battle ar Comedy Central UK.

     

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £31.50 ddim consesiwn

  • Schedule

    Dydd Mawrth 22 Medi, 2020 am 7pm & 9:30pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google