
Helen Forrester’s By The Waters of Liverpool
Mae By The Waters Of Liverpool, a addaswyd o’r llyfr a werthodd sawl miliwn o gopïau, yn ddrama gyfnod a osodwyd yn yr 1930au.
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau:
Dydd Llun £17, dim consesiynau.
Dydd Mawrth – Dydd Iau £25, £22 consesiynau i Bensiynwyr/ Plant £2 i ffwrdd, Grwpiau 1 o bob 10 am ddim.PULSE RECORDS LIMITED mewn cydweithrediad â BILL ELMS yn cyflwyno
“A big sweeping story of real emotion”
THE STAGE
TAITH BREMIERE PRYDAIN O
BY THE WATERS OF LIVERPOOL
GAN HELEN FORRESTER
Addaswyd gan ROB FENNAH / Cyfarwyddwyd gan GARETH TUDOR PRICE
YN CYNNWYS CAST LLAWN SÊR O’R LLWYFAN A’R SGRÎN
Mark Moraghan, Sian Reeves, Parry Glasspool, Lucy Dixon ac Eric Potts
yn ymuno â Lynn Francis, Danny O’Brien, Roy Carruthers a Chloe McDonald.
Mae By The Waters Of Liverpool, a addaswyd o’r llyfr a werthodd sawl miliwn o gopïau, yn ddrama gyfnod a osodwyd yn yr 1930au. Mae’r stori’n agor ym 1935. Mae Helen Forrester yn un ar bymtheg oed ac yn cael brwydr chwerw gyda’i rhieni am yr hawl i addysgu ei hun a mynd allan i weithio. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, collodd tad Helen ei ffortiwn pan gwympodd y farchnad stoc a syrthiodd y teulu i dlodi disymwth. Gan adael nanis, gweision a bywyd dosbarth canol cysurus de-orllewin Lloegr, dewisodd Forrester Lerpwl fel y lle i gael dechrau newydd. Roedd sioc aruthrol yn aros amdanynt. Mae Helen, sy’n cael ei thynnu o’r ysgol i ofalu am ei brodyr a’i chwiorydd ieuengach wrth i’w rhieni straffaglu i ailadeiladu eu bywydau, yn cael ei thrin fel caethforwyn ddi-dâl ac mae hi ar dân i gael dianc. Erbyn 1939, a hithau’n ugain oed a Phrydain ar drothwy rhyfel, doedd hi erioed wedi ei chusanu gan ddyn. Ond mae pethau’n dechrau argoeli’n well i Helen pan mae hi’n cwrdd â morwr tal a chryf ac yn syrthio mewn cariad.
Mae “By the Waters of Liverpool” yn cynnwys fflachiau yn ôl i gyfrolau cynnar Helen “Liverpool Miss” a “Twopence To Cross The Mersey”. Rwyf hyd yn oed wedi cynnwys stori o bedwerydd hunangofiant Helen, “Lime Street At Two”. Y ffordd hyn felly bydd newydd-ddyfodiaid i hanes Helen yn cael darlun cyflawn o’i bywyd”.
Rob Fennah ~ Dramodydd a chyfaill i Helen Forrester.
Awdurdodwyd yn llawn gan ystâd Helen Forrester.
-
Tickets / Tocynnau
Dydd Llun £17, dim consesiynau.
Dydd Mawrth– Dydd Iau £25, £22 consesiynau i Bensiynwyr/ Plant £2 i ffwrdd, Grwpiau 1 o bob 10 am ddim. -
Schedule
Dydd Llun 17 - Dydd Iau 21 Hydref, 2021 @ 7.30pm
Dydd Mercher 20 Hydref @ 2.30pm
-
Location / Lleoliad