19 Hydref 2019 7.30pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £23 dim consesiynau

    Byddwch yn barod i leuadgerdded drwy’r nos mewn sioe sydd â phrif berfformiwr, Navi, y gwnaeth Michael Jackson ei hun unwaith godi ar ei draed i’w gymeradwyo.

    Mae King of Pop – The Legend Continues ar daith o amgylch y DU ar hyn o bryd ac yn llenwi theatrau Prydain. Mae’r cynhyrchiad gwych yn cynnwys dynwaredwr Rhif 1 MJ ‘Navi’ gafodd wahoddiad i berfformio mewn dau o bartion pen blwydd Michael Jackson yn LA ac Efrog Newydd. Roedd Michael yn cymeradwyo Navi a hefyd cododd ar ei draed a gwahodd y dynwaredwr i dreulio diwrnod yn ei gartref ‘Neverland’. Roedd y ddau yn ffrindiau agos ac o ganlyniad i’r tebygrwydd rhyfeddol rhwng y ddau, byddai Navi’n aml yn cael ei gyflogi i dynnu sylw’r tyrfaoedd a’r wasg oddi wrth Michael ei hun.

    Mae Navi ers hynny wedi parhau i weithio i’r lefel uchaf yn perfformio mewn 57 o wledydd gwahanol a bellach mae wedi dychwelyd i’r DU ar gyfer taith theatr genedlaethol ynghyd â’i fand byw a dawnswyr anhygoel. Mae Navi yn ail-greu’r holl glasuron hudol o ganeuon cynnar y Jackson 5 i ganeuon mawr megis Thriller a Smooth Criminal, mewn sioe y bydd y teulu cyfan yn ei mwynhau.

    Archebwch eich pryd cyn theatr
    Archebu Tocynnau

  • Tickets / Tocynnau

    £23 dim consesiynau

  • Location / Lleoliad

Video / Fideo

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google