25 Medi 2019 - 28 Medi 2019 Amrywiol Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: 

    Dydd Mercher – Dydd Sadwrn £37.50, £32.50 dim consesiynau

    Mae Mark Goucher a’r cynhyrchydd tro cyntaf, Jason Donovan wedi cyhoeddi y bydd yr actor ac enillydd Strictly Come Dancing, Joe McFadden yn ymddangos yn eu cynhyrchiad newydd sbon o’r sioe gerdd sgleiniog ac annwyl Priscilla, Queen of the Desert.

    Mae gan y sioe gerdd eiconig fwy o sglein nag erioed o’r blaen, gan gynnwys amrywiaeth o wisgoedd trawiadol, plu penigamp a pharêd diddiwedd o glasuron y llawr dawnsio sy’n cynnwys It’s Raining Men, I Will Survive, I Love The Nightlife, Finally a llawer mwy.

    Mae’r sioe sy’n seiliedig ar y ffilm PRISCILLA, a enillodd Oscar, yn olrhain antur chwerthinllyd tri chyfaill sy’n neidio ar fwrdd hen siarabáng o fws sy’n teithio i Alice Springs i lwyfannu sioe unwaith mewn oes. Mae eu taith arwrol yn stori gynnes o ddarganfod eu hunain, ysbryd a derbyn.
    Daw’r cynhyrchiad newydd sbon hwn wrth y tîm y tu ôl i deithiau clodwiw’r DU o Hairspray; gyda chyfarwyddyd gan Paul Kerryson, coreograffi gan Tom Jackson-Greaves gyda chynlluniau gan Phil R Daniels a Charles Cusick Smith, dyluniad goleuadau gan Ben Cracknell a dyluniadau sain gan Ben Harrison.
    Mae’r sioe eiconig PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT yn dod i BAFILIWN Y RHYL!
    Mae PRISCILLA, gyda seren ac enillydd Strictly Come Dancing Joe McFadden, yn dilyn antur ddoniol tri chyfaill sy’n camu ar hen fws tolciog sy’n mynd am yr Outback i greu sioe orau eu bywydau. Mae eu taith epig yn stori i dwymo’r galon ynghylch hunan-ddarganfod, powldrwydd a chael eich derbyn.
    Gyda mwy o gliter nac erioed o’r blaen, mae’r sioe hynod boblogaidd hon yn cynnwys amrywiaeth trawiadol o wisgoedd syfrdanol, plu bendigedig a gorymdaith ddi-baid o glasuron y llawr dawnsio HOT STUFF, I WILL SURVIVE, I LOVE THE NIGHTLIFE a FINALLY!
    PriscillaUKTour.com & PriscillaUKTour.co.ukThe World Famous Elvis Show

    PriscillaUKTour.com & PriscillaUKTour.co.uk

    Archebwch eich pryd cyn theatr
    Archebu Tocynnau

  • Tickets / Tocynnau

    Dydd Mercher – Dydd Sadwrn £37.50, £32.50 dim consesiynau

  • Schedule

    Dydd Mercher 25 – Dydd Sadwrn 28 Medi, 2019 am 7:30pm,

    Matinee ar Dydd Sadwrn am 2:30pm

  • Location / Lleoliad

Video / Fideo

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google