16 Tachwedd 2019 9pm 1891 Bar
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau:  £5

    Mae’r perfformiwr teyrnged Robbie Williams byd-eang yn dod i gynnal noson o adloniant ym mwyty 1981 y Rhyl yn yr Hydref eleni

    Dewch draw i fwyty 1891 i wylio perfformiad personol ac agosatoch gan y canwr teyrnged Robbie Williams gorau yn y byd fis Tachwedd eleni.

    Mae hyd yn oed Robbie Williams ei hun wedi cydnabod talent Mike Andrew, ef yw’r gorau yn ei faes ac mae’n dod i fwyty 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl i gynnal noson llawn adloniant am 9pm ddydd Sadwrn 16 Tachwedd.

    Cynhelir y cyngerdd yn y mwyty arbennig a llawn awyrgylch, 1891. Bydd gwledd o adloniant i’r gynulleidfa gan gynnwys rhai o ganeuon mwyaf llwyddiannus Robbie, megis ‘Feel’, ‘Angels’, ‘Millennium’ a ‘Let Me Entertain You’.

    Mae Mike yn lleol i’r Rhyl, a does dim curo ar ei debygrwydd arbennig i Robbie o ran ei ystumiau, ei edrychiad, ei naws ddireidus ar y llwyfan, heb sôn am ei lais, ac mae ganddo hyd yn oed yr un tatŵs â Robbie.

    Wth drafod Mike a’i berfformiad, dyma eiriau Robbie Williams: “Ni wn i lle mae o’n dechrau a lle rydw i’n gorffen”

    Mae Mike wedi perfformio i gleientiaid arbennig iawn, ac mae hefyd wedi perfformio i enwogion megis Coldplay, Mel C ac Edith Bowman, ond heb os nac oni bai, canu â Robbie Williams ei hun yn ei gyngerdd Swings Both Ways yn y First Direct Arena yn Leeds ym mis Mehefin 2014 yw uchafbwynt gyrfa Mike. Mae Mike hefyd wedi cael y fraint o berfformio ym Mharti Pen-blwydd Robbie yn 40 oed yn RWFanfest yn Burslem, canodd Mike â thad Robbie, Pete Conway, a pherfformiodd ei sioe deyrnged i gannoedd o gefnogwyr Robbie Williams o bob cwr o’r byd.

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu Mike i fwyty 1891 ac at ail-fyw rhai o’n hoff ganeuon gan Robbie Williams yn ystod y noson arbennig hon.

    “Mae bwyty 1981 yn lleoliad perffaith i gynnal perfformiadau a chyngherddau oherwydd ei awyrgylch cyfoes a chain.”

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £5

  • Schedule

    Dydd Sadwrn 16Tachwedd, 2019 am 9pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google