
Sleeping Beauty performed by The Russian National Ballet
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £22 consesiwn £2 i ffwrdd
Bale Cenedlaethol Rwsia
yn cyflwyno
Sleeping Beauty – chwedl dylwyth teg ysblennydd
Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky
Ar ôl gwerthu pob un tocyn ar gyfer pob perfformiad o The Nutcracker a Swan Lake y llynedd, mae Bale Cenedlaethol Rwsia yn dod yn ôl i’r DU.
Mae Sleeping Beauty, ffefryn y plant, yn sori glasurol am ramant a diniweidrwydd, hud a lledrith wedi’i gosod i gerddoriaeth lesmeiriol Tchaikovsky.
Drwy goreograffi syfrdanol, gwisgoedd moethus a setiau anhygoel crëir byd ffantasi lle mai’r Dylwythen Deg Lelog yn brwydro yn erbyn Carabosse atgas.
Yn seiliedig ar y stori gan Charles Perrault, mae Sleeping Beauty yn adrodd hanes y Dywysoges Aurora a gafodd ei melltithio yn ystod ei bedydd gan Carabosse i farw un dydd drwy bigo ei bys ar werthyd.
Diolch i ymyrraeth amserol y Dylwythen Lelog, dydi hi ddim yn marw ond yn hytrach yn cysgu am gan mlynedd.
Caiff ei deffro gan dywysog a frwydrodd drwy’r Goedwig Hud i gyrraedd ati ac maen nhw’n priodi mewn seremoni sy’n cael ei fynychu gan gymeriadau rhigwm a hwiangerdd fel Puss in Boots a holl greaduriaid eraill y goedwig.
Nid oes unrhyw sgorau cerddorol mor llwyddiannus o ran cefnogi’r amrediad llawn o fale na rhai Tchaikovsky.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y ‘Rose Adagio’ enwog pan gaiff y Dywysoges Aurora ei chyflwyno i bedwar tywysog.
Noson allan fendigedig ac atgofion fydd yn aros ymhell ar ôl i’r llen olaf ddod i lawr.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch i www.russian-national-ballet.com
-
Tickets / Tocynnau
£22 consesiynau £2 i ffrwd
-
Schedule
Dydd Mercher 6 Hydref 2021 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad