
The ELO Tribute Show
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £24 (f)
The ELO Show – Y deyrnged orau yn y byd i gerddoriaeth ac athrylith Jeff Lynne ac ELO
Mae’r cerddor Brian Cummins yn dod a’i sioe newydd sbon yn dathlu cerddoriaeth Jeff Lynne ac E.L.O, gyda band o gerddorion anhygoel gan gynnwys adran linynnau. Bydd yn noson wych yn llawn clasuron o gatalog eang.
Fe wnaeth Jeff Lynne ac ELO gynnal etifeddiaeth y Beatles, ac yn ei eiriau ei hun roedd eisiau “Carry on from where I am the Walrus left off’. Cyfunodd gerddoriaeth glasurol gyda motiffau’r goreuon gyda Roc a Rôl yn annhebyg i unrhyw gerddor o’r blaen. Fe wnaeth yr albwm ‘Out of the Blue’ a gafodd ei ryddhau ym 1977 eu gosod yn y llyfrau hanes Roc a’u gwneud yn un o’r bandiau mwyaf yn y byd ar y pryd.
Ar ôl nifer o flynyddoedd o deithio, gadawodd Jeff y band er mwyn canolbwyntio ar gynhyrchu rhai o gerddorion mwyaf y cyfnod, gan gynnwys George Harrison, Tom Petty, Roy Orbison, Paul McCartney a’r Beatles.
Atgyfododd Jeff etifeddiaeth ELO yn 2014 gyda pherfformwyr newydd a sioe lwyfan syfrdanol, ac mae’n parhau i deithio i arenas a stadiwms y byd hyd heddiw.
Bydd sioe oleuadau syfrdanol a sgriniau fideo 3D yn yr ELO SHOW, sy’n debyg iawn i sioeau presennol Jeff.
Dylech ddisgwyl clywed caneuon fel ‘Evil Woman’, ‘Don’t bring me down’, ‘Telephone Line’, ‘Sweet Talkin Woman’, ‘Turn to stone’, ‘Wild west Hero’, ‘The Diary of Horace Wimp’, ac wrth gwrs y clasur ‘Mr Blue Sky’, a llawer mwy ac ambell ryfeddod hefyd.
Peidiwch â cholli noson wych o nostalgia a chaneuon poblogaidd.
-
Tickets / Tocynnau
£24 (f)
-
Schedule
Dydd Gwener 1 Hydref 2021 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad