20 Medi 2019 7.30pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £23 consesiynau £1.50 i ffwrdd (f)

    Mae’r band teyrnged y Beatles o Lerpwl gorau yn y byd – The Mersey Beatles – yn teithio’r byd yn 2019 i ddathlu 50fed pen-blwydd albwm eiconig y ‘Fab Four’ a ryddhawyd ym 1969 – Abbey Road.
    Mae llawer yn credu mai’r Mersey Beatles yw’r band teyrnged Beatles mwyaf agos ati yn y byd. Nhw yw’r cyn-fand preswyl yng nghlwb chwedlonol y Cavern Club yn Lerpwl – gan chwarae yn y lleoliad byd-enwog dros 600 o weithiau – ac maent wedi derbyn clod gan neb llai na theulu John Lennon ei hun.
    Yn 2019, mae’r band yn teithio yn yr UDA, Awstralia ac Ewrop gyda sioe lle byddant yn chwarae albwm Abbey Road yn ei gyfanrwydd yn yr hanner cyntaf ac yna’n perfformio ail set aruthrol o ganeuon mwyaf poblogaidd y Beatles.
    Mynnwch eich tocynnau rŵan ar gyfer y noson na ddylech ei methu i gael dathlu’r band gorau erioed!
    BETH YW’R FARN AM Y MERSEY BEATLES…
    “Mae’r Mersey Beatles wedi taro’r hoelen ar ei phen gyda sain y Beatles. Mae ganddynt allu anhygoel i ddod â phobl ar eu traed i ddawnsio a byddai John wedi bod wrth ei fodd efo hynny!”
    Julia Baird, chwaer John Lennon
    “Pan weles i nhw’n chwarae yn y Cavern, roedden nhw’n ail-greu’r awyrgylch roedd y Beatles gwreiddiol yn ei greu i’r dim. Roedd fel gwrando ar y Beatles unwaith eto.”
    Joe Flannery, cymhorthydd rheolwr y Beatles, Brian Epstein
    “With charm, skill and that something special many tributes lack, The Mersey Beatles are a real testament to the original Liverpool legends.”
    Kent Online
    “The Mersey Beatles are the next best thing to seeing the original group live.”
    The Morning Call, Pennsylvania, USA

    Archebwch eich pryd cyn theatr
    Archebu Tocynnau

  • Tickets / Tocynnau

    £23 consesiynau £1.50 i ffwrdd (f)

  • Schedule

    Dydd Gwener 20 Medi, 2019 am 7:30pm

  • Location / Lleoliad

Video / Fideo

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google