24 Ebrill 2021 7.30pm Rhyl Pavilion (2021)
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau:  £22.50

    Stefan Taylor a The Signatures yw Band blanellaw Northern Soul y DU. Maent bellach wedi ychwanegu fel un o’u prif artistiaid, y chwedl Northern Soul wreiddiol, Lorraine Silver.

    Rhoddodd y band eu mynegiant eu hunain i lawer o ganeuon clasurol Northern Soul gan greu gwir gydbwysedd rhwng y gwreiddiol a’r modern mewn sain. Camwch yn ôl at synau’r Twisted Wheel, Blackpool Mecca, Golden Torch a Wigan Casino. Mae The Signatures yn rhoi set llawn angerdd ac egni sy’n sicrhau cael y gynulleidfa i ddawnsio.

    Recordiodd y gantores Northern Soul LORRAINE SILVER  “Lost Summer Love” pan oedd yn 13 oed ym 1965. Nawr 54 mlynedd yn ddiweddarach mae hi wedi bod yn y stiwdios recordio gyda’r cynhyrchydd recordiau chwedlonol IAN LEVINE i recordio sengl newydd sbon danlli ‘STANDING AT THE INTERSECTION’/ ‘BEST TIME OF MY LIFE’. Mae’r rhain wedi’u hysgrifennu’n arbennig ar ei chyfer ar ôl iddo ei gweld yn perfformio ym mhenwythnos diweddar ‘Northern Soul Survivors Weekend’ yn Butlin’s Skegness a oedd â 8000 o gefnogwyr ymroddedig Northern Soul yn bresennol.
    Gwahoddwyd Lorraine i ymddangos ar gyfer Plant Mewn Angen ar TONY BLACKBURN’S BIG SOUL NIGHT OUT 2017 a ddarlledwyd yn fyw gan BBC RADIO LONDON.

    Diolch i DJ chwedlonol Northern Soul, RUSS WINSTANLEY, daeth y sengl a recordiwyd gan Lorraine ar gyfer PYE RECORDS ym 1965 ‘LOST SUMMER LOVE’ yn drac eiconig yn WIGAN CASINO yn y 70’au heb yn wybod iddi. Oherwydd galw mawr gan y cyhoedd, cafodd y sengl ei hail-ryddhau ar label Casino Classics a gwerthwyd dros 30,000 o gopïau. Rhestrwyd y trac yng nghylchgrawn ‘Blues & Soul‘ ym 1987 fel un o’r 10 record Northern Soul orau erioed.

    Dechreuodd hyn yrfa Lorraine fel cantores Northern Soul. Yn 2004 recordiodd albwm newydd sbon o anthemau Northern Soul ‘The Northern Soul Sessions’ sy’n dal i werthu’n dda o’i lawrlwytho o dan y teitl newydd ‘Northern Soul Diva’. Mae hyn yn cynnwys ei hail recordiadau o drac clasurol ‘LOST SUMMER LOVE’ ei sengl ddilynol ‘THE HAPPY FACES’ a’i fersiynau o rai o glasuron Northern Soul gan gynnwys ‘LANDSLIDE’ a’r gân a ysgrifennwyd gan Burt Bacharach / Hal David ‘LONG AFTER TONIGHT IS ALL OVER‘.

    Mae ‘LOST SUMMER LOVE’ yn dal i fod yn record hoff yn y sîn Northern Soul a Sgŵter heddiw ac mae i’w gweld ar nifer o grynoadau CD ac i’w lawrlwytho.
    Darganfyddwch fwy o’i stori wych a manylion dyddiadau ei thaith

    www.lorrainesilver.com  https://en.wikipedia.org/wiki/Lorraine_Silver

    Mae STEFAN TAYLOR yn canu gydag angerdd o’i enaid gydag ystod leisiol anhygoel. Ers 2016 mae Stefan wedi bod yn ymddangos fel prif leisydd Band Northern Soul blaenllaw’r DU, The Signatures. Mae hefyd yn chwarae mewn llawer o wyliau cerdd, nosweithiau Northern Soul, ralïau sgwter a lleoliadau cerdd.
    Mae wedi gweithio ochr yn ochr ag artistiaid American Soul fel Tommy Hunt, Dean Parrish, Brenda Holloway a Tobi Legend, yn ogystal â rhannu’r bil gydag artistiaid fel Angelo Starr a Paul Stuart Davies o’r DU a gwelodd 2018 ef yn gweithio gyda’r enwogion Americanaidd Sidney Barnes, Pat Lewis, Ruby Andrews a Bobby Brooks Wilson, mab Jackie Wilson.

    Yn 2018 rhyddhaodd Stefan ei sengl gyntaf “Break the Blues” sy’n drac gwreiddiol gyda naws gref Northern Soul. Cyd-ysgrifennwyd a chynhyrchwyd y gân gan Mark Topham. Roedd ochr B yn fersiwn Northern Soul prin iawn o “I Need You”.

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £22.50

  • Schedule

    Dydd Sadwrn 24 Ebrill, 2021 am 7.30pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google