
Toploader Live in Concert
-
Info / Gwybodaeth
Prisiau Tocynnau: £20 ddim consesiynau Oed 18+
Mae cantorion ‘Dancing in the Moonlight’ yn paratoi ar gyfer blwyddyn gyffrous iawn o ddathlu 20 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm gyntaf, ‘Onka’s Big Moka’.
Yn 2019 gwrandawyd ar yr albwm 82.2 miliwn o weithiau ar Spotify. Mae’r albwm hynod boblogaidd yn cynnwys cyfres o senglau a gyrhaeddodd yr 20 uchaf yn y siartiau, gan gynnwys ‘Dancing in the Moonlight’ a dreuliodd dros flwyddyn yn siartiau amser darlledu Ewrop, a’r ffefryn ‘Achilles Heel’. Erbyn heddiw mae pobl wedi gwrando ar yr albwm dros 200 miliwn o weithiau, sy’n golygu mai nhw ydi’r band y mae pobl wedi gwrando arnyn nhw fwyaf yn y DU.
Bydd y perfformiad yn Theatr y Pafiliwn yn cynnwys hoff ganeuon y band ac ail fersiynau o ganeuon clasurol, yn ogystal â chaneuon ‘Onka’s Big Moka’ a werthodd dros ddwy filiwn o gopïau ac aros ym mhump uchaf siartiau albymau’r DU am chwe mis a mwy, gan arwain at dderbyn enwebiad ar gyfer 4 gwobr Brit.
Mae’r canwr Joe Washbourn yn edrych ymlaen at gael dod i’r Rhyl ar gyfer y sioe arbennig hon. Dywedodd: “Roedd arnom ni eisiau creu set byw sy’n gwneud i bobl sefyll ar eu traed o’r dechrau i’r diwedd. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at berfformio’r caneuon yma yn yr haf!”
Gydag enw da am fod yn fand sy’n plesio cynulleidfaoedd, mae Toploader wedi cefnogi artistiaid fel Paul Weller, Robbie Williams, Noel Gallagher, Tom Jones, Simple Minds a Bon Jovi, a nhw oedd y band Prydeinig olaf i chwarae yn y Stadiwm Wembley gwreiddiol.
Yn syth o berfformio mewn llu o wyliau, gan gynnwys Glastonbury, V-Festival, T in the Park a Carfest Chris Evans, bydd y sioe yn y Rhyl yn noson i’w chofio!
-
Tickets / Tocynnau
£20 ddim consesiynau
-
Schedule
Dydd Sul 3 Hydref, 2021 @ 7.30pm
-
Location / Lleoliad