22 Tachwedd 2019 8pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau:  £18

    Noson o Gomedi Byw Rhagorol â Mark Watson yn Theatr Pafiliwn y Rhyl

    Bydd “Yn fyw ym Mhafiliwn y Rhyl” yn cyflwyno rhai o enwau mwyaf llwyddiannus y byd comedi yn y Rhyl fis nesaf, gan gynnwys y comedïwr hynod ddigrif, Mark Watson, fel mae’n ymddangos ar y rhaglen Taskmaster, yn ogystal â rhestr ddiguro o gomedïwyr eraill, gan gynnwys Stephen Buchanan, Helen Bauer ac Eshaan Akbar.

    Bydd y perfformwyr yn dod yn syth o ŵyl gomedi Caeredin i berfformio’r sioe gomedi fyw newydd sbon hon am un noson yn unig, sef nos Wener 22 Tachwedd am 8pm. £18 yw pris y tocynnau, felly peidiwch â methu’r noson gomedi arbennig hon.

    Mae papur newydd The Times wedi disgrifio Mark Watson fel ‘Terrifyingly funny,’ byddwch yn ei adnabod o raglenni megis Mock The Week, Celebrity Pointless, Taskmaster, Have I Got News For You, Would I Lie To You?, Live At The Apollo a Comedy Gala ar Channel 4. Mae ar hyn o bryd yn recordio cyfres arall o’i sioe poblogaidd ar Radio 4, Mark Watson Talks A Bit About Life.

    Mae Stephen Buchanan, enillydd Gwobr Gomedi Newydd y BBC yn 2018 ac enillydd Comedïwr Albanaidd y Flwyddyn yn 2018, yn ddiweddar wedi datblygu i fod yn un o’r comedïwyr ifanc mwyaf poblogaidd ac addawol o’r Alban. Mae ei bersona hunan-fychanol ynghyd â’i arddull arsylwadol yn boblogaidd iawn ymysg cynulleidfaoedd a chyd-gomedïwyr fel ei gilydd.

    Mae Helen Bauer, sydd wedi ymddangos ar BBC Radio 4, BBC Three a Comedy Central Online, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Comedi Newydd y BBC yn 2018, yn siŵr o’ch cael chi yn eich dyblau’n chwerthin yn ystod ei pherfformiad wrth iddi arbrofi lefel newydd o gomedi anecdotaidd.

    Mae MC Eshaan-Akbar yn gomedïwr addawol sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd, mae wedi ymddangos ar Frankie Boyle’s New World Order a Walks of Life ar gyfer y BBC a SKY TV, yn ogystal â “The Now Show” BBC Radio 4, BBC Asian Network, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar TalkSPORT a LoveSport.

    Beth am fynd am bryd o fwyd i fwyty 1891 cyn y sioe i wneud y mwyaf o’n cynnig ‘dau gwrs, diod a thocyn’ am £36.00 y pen. Ffoniwch y swyddfa docynnau i archebu’r pecyn ar 01745 330000 neu archebwch eich tocynnau ar-lein ar rhylpavilion.co.uk.

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £18

  • Schedule

    Dydd Gwener 11 Tachwedd 2019 am 8pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google