14 Hydref 2022 7.30pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £26.50 ddim consesiynau

    ‘The World Famous Elvis Show’ – gyda’r byd enwog CHRIS CONNOR!

    Yn torri’r record ym mhob swyddfa tocynnau – YN SWYDDOGOL!

    Wedi cael canmoliaeth uchel gan y Telegraph –  ‘y sioe talu teyrnged i Elvis orau yn y byd’

    Wedi’i henwi’r sioe Elvis orau yn y byd yn y bleidlais cefnogwyr byd-eang Elvis gyntaf o’i math  sy’n cael ei threfnu a’i dyfarnu yn Memphis.

    Meddai Joe Esposito (ffrind gorau a rheolwr teithiau Elvis) yn Memphis Tennessee –

    ‘wow mae’r bachgen ‘na’n dda – mae’n o’r un ffunud ag Elvis a chanddo’r un egni ar y llwyfan ”

    Mae Martin Fontaine – (actor yn The Elvis Story) wedi dweud yn gyhoeddus –

    “I mi Chris Connor ydi’r peth agosaf at y Brenin dw’i erioed wedi’i weld a’i glywed. Dw’i mewn sioc, mae’n wirioneddol anhygoel…..”

    Dywedodd Jerry Shchilling (aelod o’r Memphis Mafia a ffrind agos) yn fyw ar y teledu yn Awstralia –

    ” Dw’i wedi bod yn dilyn gyrfa Chris Connor ac yn fy marn i does neb gwell nag o. ”

    Seren a chynhyrchydd y sioe yw’r perfformiwr Elvis byd enwog CHRIS CONNOR sy’n cael ei gefnogi gan ei fand 12 aelod  ‘THE STEELS’ a’i gantorion cefndir ‘ The Sweet Harmonies’ .

    Cynhyrchiad mawreddog sy’n ail-greu dros ddwy awr ddau o gyngherddau mwyaf poblogaidd Elvis Presley.

    Mae’r sioe’n ail-greu’n ddilys ac yn eu trefn ddau o gyngherddau Elvis ar ei orau ac mae’r seddi’n gwerthu’n gyflym ym mhob theatr!

    Byddwch yn teimlo eich bod wedi’ch cludo’n ôl i’r gorffennol.

    Os nad oeddech yn ddigon ffodus i weld Elvis yn fyw, byddwch yn gadael y cyngerdd hwn yn teimlo mai dyna wnaethoch chi.  Mae llawer iawn o gefnogwyr Elvis wedi gadael y sioe’n teimlo’n emosiynol dros ben.

    Does dim ond UN Elvis Presley ond mae ei gefnogwyr o amgylch y byd yn siarad am CHRIS CONNOR sydd mor anhygoel o debyg i Elvis mewn edrychiad, ymarweddiad a llais.

    Meddai rheolwr Chris Connor,   Lisa Matthews –

    “Mae Chris wedi denu llu o ddilynwyr o bob cwr o’r byd.  Dyn swil a diymhongar ydi o, ond unwaith mae o ar y llwyfan, Elvis ydi o ac mae’n rhywbeth rhyfeddol i’w weld.  Mae Chris yn sicrhau bod ei deyrnged mor barchus a dilys â phosibl bob amser.

    Ar ôl y sioeau mae’r gynulleidfa mewn sioc a dagrau oherwydd bod Chris mor anhygoel o debyg i Elvis mewn edrychiad, llais a symudiad.

    Mae Chris wedi gweithio’n hynod o galed i ennill ei le fel Perfformiwr Elvis gorau’r byd ac mae’n ddiolchgar dros ben am gefnogaeth barhaus ei ddilynwyr o bedwar ban byd.

    Crëwyd y sioe hon gan bobl sy’n caru Elvis ar gyfer pobl sy’n caru Elvis. Ddylech chi wir ddim methu’r sioe drydanol hon!”.

    ‘RHAID GWELD I GREDU’….

     

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

     £26.50 ddim consesiynau

  • Schedule

    Dydd Gwener 14 Hydref, 2022 @ 7.30pm

  • Location / Lleoliad

Video / Fideo

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google