Amdanom ni

Lleolir y theatr ar lan y môr y Rhyl, sydd â golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru, ar draws Eryri a thu hwnt. Mae ein theatr sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys ‘Bwyty a Bar 1891’ wedi’i leoli ar y llawr cyntaf.  Os ydych eisiau diod i ymlacio, swper hir, swper cyn y theatr neu ginio sydyn, mae gan 1891 rywbeth i bawb.

Cafodd y theatr 1,031 o seddi ei chynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau o bob genre. Mae rhaglen y Pafiliwn yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau – mae cynyrchiadau diweddar wedi cynnwys Mrs Brown’s Boys, Chicago, Little Mix, Olly Myrs a John Bishop, a llawer mwy.  Yn ogystal â chynyrchiadau mawr, mae Theatr Y Pafiliwn wedi ymrwymo i hwyluso theatr a dawns yn y gymuned yn ogystal â chynyrchiadau ysgol.

Ein Cenhadaeth: “Rydym yn Theatr y Pafiliwn yn credu bod y celfyddydau ar gyfer pawb i’w brofi a mwynhau, a byddwn yn annog yn gadarnhaol mynediad i’r profiadau hynny i holl aelodau o’r gymuned ac o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.”

Rheolir Theatr y Pafiliwn gan yr Adran Hamdden Sir Ddinbych o fewn Cyngor Sir Ddinbych.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google