Cyfeillion Theatr Pafiliwn y Rhyl
Cyfeillion y Theatr
Mae Cyfeillion y Pafiliwn yn gymdeithas benodol ar gyfer cefnogi a hyrwyddo Theatr y Pafiliwn.
Mae ei aelodaeth yn helpu arbed dros £20,000 y flwyddyn mewn costau sy’n cael ei gyflawni gan Gyfeillion sy’n gwirfoddoli mewn pob math o ffyrdd, o stwffio amlenni ar gyfer anfon drwy’r post i werthu rhaglenni sioeau.
Mae’r Cyfeillion yn darparu eitemau ychwanegol i’r theatr na fyddai’n cael eu darparu fel arall. Er enghraifft, mae’r Cyfeillion wedi darparu cadair olwyn at ddefnydd cwsmeriaid y Pafiliwn.
Mae’r Cyfeillion yn anelu at gael rhywun yn gwasanaethu desg y Cyfeillion yng nghyntedd y theatr yn y rhan fwyaf o sioeau. Bydd pwy bynnag sydd yno yn falch iawn i drafod agweddau’r Cyfeillion a’r theatr.
Costau Aelodaeth Blynyddol
- Sengl £8
- Cwpwl £12
- Teulu £15
*Aelodaeth teulu: 2 oedolyn a 2 blentyn (o dan 16 mlwydd oed)
Buddion Aelodaeth
Mae bod yn un o Gyfeillion y Pafiliwn yn eich gwneud yn gymwys i sawl budd, gan gynnwys:
- Gostyngiad o £2 ar bris tocynnau a nifer fawr o sioeau yn ystod y flwyddyn
- Blaenoriaeth ar archebion rhai sioeau
- Hysbysiad o flaen llaw am sioeau ar y gweill
- Newyddlen bob Chwarter
- Mynediad i bartïon ar ôl y sioe gyda’r cyfle i gwrdd â rhai o sêr y sioeau
- Digwyddiadau cymdeithasol gan gynnwys ymweliadau i theatrau eraill
- Raffl Misol
Sut ydw i’n ymuno?
Dros y Ffôn: Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01745 33 00 a thalwch gyda cherdyn debyd/credyd.
Drwy’r Post: Cliciwch i lawrlwytho’r ffurflen gais neu ysgrifennu atom gan gynnwys eich enw’n llawn, cyfeiriad, cod post a rhif ffôn, a manylion eich dewis aelodaeth (sengl, cwpwl neu deulu) ac oedran unrhyw blant a siec yn daladwy i ‘Cyfeillion Theatr y Pafiliwn’ i;
Cyfeillion Theatr y Pafiliwn
Drwy Theatr y Pafiliwn
Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl
LL18 3AQ
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!