24 Mehefin 2022 - 25 Mehefin 2022 Dydd Gwener & Dydd Sadwrn @ 7pm Rhyl Pavilion
  • Info / Gwybodaeth

    Prisiau Tocynnau: £ 15 y perfformiad, £ 25 ar gyfer y ddau berfformiad (ar gael o’r Swyddfa Docynnau)

    Mae ROWND DERFYNOL PRYDAIN O DDRAMÂU UN ACT yn cynnwys dramâu buddugol o bedair gwlad y Deyrnas Gyfunol yn cystadlu am Dlws Howard de Walden. Mae Cymdeithas Ddrama Cymru yn hapus iawn i fod yn cynnal y digwyddiad mawreddog hwn ym Mhafiliwn y Theatr yn y Rhyl ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr ac wrth gwrs, Cymru. Rydym eisiau i’n cynulleidfaoedd fynd adref gydag agwedd gadarnhaol iawn o’r hyn sydd gan y Rhyl i’w gynnig a dweud wrth bawb fod y Pafiliwn a’r Rhyl yn llefydd gwerth eu gweld. At y diben hwnnw mae arnom angen i bobl y Rhyl a’r dalgylch ddod draw i gefnogi a dangos fod Theatr Gymunedol yn ffynnu yng ngogledd Cymru.

    Ein beirniad ar gyfer y digwyddiad yw David Price sydd yn hanu o Lanfair-Ym-Muallt. Mae David yn aelod o Urdd y Beirniaid Drama (GoDA) ac mae ganddo dros ddeugain mlynedd o brofiad o theatr gymunedol. Mae’n ffarmwr ac yn Gynghorydd Sir a chafodd ei benodi yn Uchel Siryf Powys gan Ei Mawrhydi y Frenhines ar gyfer 2018/19. Mae’n feirniad poblogaidd iawn ac rydym yn sicr y bydd y gynulleidfa yn mwynhau ei sylwadau am bob drama fydd yn cystadlu.

    Ar y nos Wener, bydd y ddrama fuddugol o Gymru yn agor yr ŵyl, ac yna drama Gogledd Iwerddon. Yna bydd David yn beirniadu’r ddwy ddrama. Ar y nos Sadwrn, yr Alban fydd gyntaf, a bydd y tîm o Loegr yn cloi’r ŵyl. Eto, bydd David yn beirniadu’r ddwy ddrama. Yna fe gawn egwyl fer a bydd y tîm buddugol yn cael ei gyhoeddi.

     

    Book your pre-theatre meal
    Book Tickets

  • Tickets / Tocynnau

    £15 per performance, £25 for both performances (available from the Box Office)

  • Schedule

    24th & 25th Mehefin, 2022 @ 7pm

  • Location / Lleoliad

Register Now

Register Now

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google